P-05-791 Diddymu contractau parcio preifat yn ysbytai Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nick Harding, ar ôl casglu 102 o lofnodion ar-lein.
Geiriad y ddeiseb:
Mae bron deng mlynedd ers i Lywodraeth Cymru ddiddymu taliadau parcio mewn ysbytai ac eto, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn parhau i roi contract i Indigo Parking UK sy'n mynd ati'n ddidrugaredd i ddirwyo staff gweithgar y GIG a chleifion gwael, sef y rheini sydd lleiaf tebygol o fedru eu fforddio!
Mae'n hen bryd diddymu contractau parcio yn ysbytai Cymru ar unwaith ac atal y cwmnïau hyn rhag codi tâl ar y bobl wannaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Gwybodaeth ychwanegol:
Nod y ddeiseb hon yw dangos cefnogaeth i'r rhai sydd wedi cael dirwy gan gwmnïau gorfodi fel Indigo Parking UK, a hynny'n aml ar yr adeg pan oeddent ar eu gwannaf.
Dylai bod modd defnyddio'r gyfraith i gael gwared ar y cwmnïau hyn a dylid dangos nad oes croeso iddynt yng Nghymru.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad